Mae Llun y Dydd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 31) yn dangos Ffred a Meinir Ffransis adre’n ôl yn Llanfihangel-ar-arth.

Maen nhw wedi treulio’u noson gyntaf yng Nghymru ers dod adref o Beriw, lle’r oedden nhw wedi bod yn sownd o ganlyniad i’r coronafeirws.

Roedden nhw ymhlith miloedd o bobol o wledydd Prydain oedd wedi bod yn aros am hediad adref ar ôl i’r wlad gau ei ffiniau yn sgil y feirws.

“Meinir a Ffred wedi cyrraedd nôl yn saff i Lanfihangel prynhawn ‘ma,” meddai neges wrth ymyl llun o eiddo eu mab Hedd Gwynfor ar Twitter.

“Mae’r ddau nawr yn gweithio ar sicrhau fod pawb arall o wledydd y DG yn gallu dychwelyd yn ôl yn saff hefyd.

“Diolch i bawb am helpu lobio llywodraeth y DG.”