Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi heddiw, (dydd Llun, Mawrth 30), eu bod am neilltuo £1.1bn i gefnogi’r economi a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gallu ymdopi â phandemig y coronafeirws.
Mewn cynhadledd newyddion yn ddiweddarach heddiw bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi pecyn cyllido sylweddol i gefnogi busnesau sy’n delio gydag effaith y pandemig.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi “ailflaenoriaethu” ei chyllideb er mwyn rhyddhau’r arian.
Dywedodd llefarydd busnes y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AC eu bod yn croesawu’r pecyn i helpu busnesau “cyhyd a bod yr arian yn mynd i’r llefydd iawn ar yr adeg iawn.”
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn y gynhadledd newyddion.