Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn galw ar athrawon i weithio dros wyliau’r Pasg er mwyn ceisio cadw ysgolion yn agored i blant gweithwyr iechyd a gofal.
Mewn apêl uniongyrchol ar Twitter, meddai:
“Yn y cyfnod hwn o angen cenedlaethol, mae athrawon wedi ymateb i’r her, gyda mwy na 700 o ysgolion wedi cadw eu drysau’n agored i ofalu am blant staff y Gwasanaeth Iechyd.
“Dw i nawr yn gofyn ichi wneud mwy fyth, a chadw’r ysgolion yn agored dros yr hyn a fyddai’n wyliau ysgol.
“Dw i’n gofyn ichi fod yn hyblyg a chynnig peth amser dros y Pasg i barhau i helpu plant bregus ar y naill law, a theuluoedd ein gweithwyr hanfodol ar y llaw arall.”
Pwysleisiodd nad oedd hi’n gofyn i staff ysgolion roi eu hunain mewn perygl a galwodd ar i athrawon ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar wneud ysgolion yn llefydd diogelu, yn unol â’r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf.