Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi creu taflen lliwio enfys arbennig i blant er mwyn lledaenu positifrwydd yn ystod argyfwng y coronafeirws.
Ers i ysgolion gau eu drysau i’r mwyafrif o blant oherwydd y coronafeirws, mae nifer o blant o amgylch y wlad wedi bod yn gosod enfys yn ffenest eu tai i ddiolch i weithwyr allweddol am eu gwaith.
“Rydym eisoes wedi derbyn nifer o negeseuon cefnogol, gan gynnwys cardiau a lluniau meddylgar gan blant lleol,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl, Richard Debicki.
“Maen nhw wir wedi codi calon yn ystod y cyfnod anodd a phoenus yma.
“Nod y daflen liwio yw gwasgaru ychydig bach o hapusrwydd o amgylch ein cymunedau, felly rydym yn annog pobol i ymweld â’n gwefan ac argraffu copi.
“Fel tad i ddau o blant ifanc fy hun, dwi’n gwybod pa mor anodd yw eu diddori.
“Rydym yn gobeithio bydd hyn yn codi calon ac yn gwneud i bobl wenu.”
Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i rannu’r lluniau ar gyfrifon cymdeithasol Heddlu Gogledd Cymru.
Pwysigrwydd aros adref
Ategodd y Dirprwy Brif Gwnstabl bwysigrwydd aros adref, ac y dylai pawb barhau i ddilyn y mesurau sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru.
“Hoffwn gymryd y cyfle i bwysleisio ein bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid allweddol er mwyn ceisio atal lledaenu’r firws, ac er gwaetha’r sefyllfa bresennol, rydym yn parhau i fod allan yn gweithio yn cadw ein cymunedau’n ddiogel,” meddai.
“Fodd bynnag, rydyn ni angen i’r cymunedau weithio gyda ni – drwy aros adref.”