Gallai Stadiwm Principality a Pharc y Scarlets gael eu defnyddio er mwyn mynd i’r afael â’r coronafeirws.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn defnyddio Stadiwm Principality i drin cleifion.

Ar ôl cydweithio â’r awdurdodau ar nifer o ddigwyddiadau mawr dros y blynyddoedd, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru gynnig yr adeilad er mwyn lleddfu’r pwysau ar ysbytai.

“Roedd yr awdurdodau yn ddiolchgar ein bod ni wedi cysylltu â nhw, ac rydym yn parhau i weithio gyda’n gilydd i fonitro’r sefyllfa,” meddai llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru a Stadiwm Principality.

Nid dyma fyddai’r tro cyntaf i’r stadiwm genedlaethol gael ei defnyddio ar gyfer trin cleifion.

Yn y gorffennol, mae’r stadiwm wedi cael ei defnyddio fel ysbyty dros dro ar nosweithiau Calan.

Yn sgil y coronafeirws, mae caeau chwaraeon yn Iwerddon a Sbaen eisoes wedi cael eu defnyddio fel ysbytai dros dro. Mae Croke Park, yn Nulyn yn cael ei ddefnyddio fel clinig i brofi am Covid-19, tra fod y Madrid Arena yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau yn Sbaen.

Parc y Scarlets

Yn gynharach wythnos yma cadarnhaodd Cyngor Sir Gaerfyrddin ei bod nhw’n cydweithio gyda’r Scarlets er mwyn darparu gwelyau ychwanegol, os oes angen, yn ystod y pandemig COVD-19.

“Bydd darparu’r gwelyau ychwanegol hyn i gleifion yn hanfodol i’n helpu i reoli llif cleifion dros yr wythnosau nesaf,” meddai Dr Phil Kloer, cyfarwyddwr meddygol a dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Mae’r gymuned bob amser wedi bod yn rhan ganolog o’r Scarlets ac mewn amseroedd digynsail fel hyn rydym yn hapus i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn,” meddai Jon Daniels, rheolwr cyffredinol y Scarlets.

“Mae’r gwasanaeth iechyd yn gwneud gwaith anhygoel mewn amgylchiadau heriol, ac rydym yn hapus i allu cynnig rhywfaint o gymorth iddynt.”

Tro pedol Martyn Phillips

Ar ôl pum mlynedd yn y swydd roedd disgwyl i brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips roi’r gorau i’w swydd yr haf yma.

Ond o ganlyniad i’r heriau sy’n wynebu rygbi yng Nghymru o ganlyniad i Covid-19 cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ddydd Llun (Mawrth23), byddai’r prif weithredwr yn aros yn ei rôl.

“Mae Martyn Phillips yn benderfynol i arwain Undeb Rygbi Cymru drwy’r argyfwng iechyd yma, oherwydd y cyfnod ansicr mae wedi cytuno i aros yn ei swydd,” meddai Gareth Davies, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.