Ar y diwrnod hwn yn 1876 y chwaraeodd tîm pêl-droed Cymru eu gêm swyddogol gyntaf.

Cymru, felly, yw’r trydydd tîm pêl-droed hynaf yn y byd ar ôl Lloegr a’r Alban yn dilyn y gêm honno ar Fawrth 25, 144 o flynyddoedd yn ôl.

Colli o 4-0 yn Glasgow oedd eu hanes, ac roedd yn rhaid disgwyl pum mlynedd am y fuddugoliaeth gyntaf, pan guron nhw Loegr o 1-0 ar Chwefror 26, 1881 yn Blackburn.

Yma, mae golwg360 yn edrych ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau pêl-droed Cymru yn ogystal â rhai o’r rheolwyr a chwaraewyr gorau dros y blynyddoedd.

Dewin o Gymro

Mae un dyn yn sefyll allan yn nyddiau cynnar pêl-droed Cymru, sef Billy Meredith.

Cafodd ei eni yn Y Waun yn 1874, a bu’n gweithio mewn pwll glo lleol pan oedd o’n 12 oed.

Treuliodd gyfnodau hir yn chwarae i Manchester City a Manchester United mewn gyrfa wnaeth bara dros 30 mlynedd ac roedd yn un o sêr cyntaf y gêm.

Roedd  yn chwarae gyda phigyn dannedd yn ei geg i’w helpu i ganolbwyntio.

Enillodd Billy Meredith 48 cap dros Gymru rhwng 1895 a 1920, a oedd yn record ar y pryd, ac yn 45 mlwydd a 229 diwrnod oed, fo ydi’r chwaraewr hynaf i ennill cap i Gymru hyd heddiw.

Pele yn trechu Cymru

Cyrhaeddodd Cymru Gwpan y Byd am y tro cyntaf, a’r unig dro, yn 1958.

Roedd yn gyfnod euraid, gyda chwaraewyr megis Cliff Jones, Ivor Allchurch a John Charles.

Enillodd Cymru le yn y twrnament drwy guro Israel mewn gêm ail gyfle wedi i dimau o Asia ac Affrica wrthod chwarae yn eu herbyn.

Roedd Cymru o dan hyfforddiant rheolwr cynorthwyol Manchester United, Jimmy Murphy, bedwar mis yn unig ar ôl trychineb awyr Munich.

Wedi cyrraedd Sweden, cyrhaeddodd Cymru’r wyth olaf gyda buddugoliaeth mewn gêm ail gyfle dros Hwngari.

Ond daeth y freuddwyd i ben wrth i Gymru golli o 1-0 yn erbyn Brasil, enillwyr y gystadleuaeth yn y pen draw, gyda bachgen 17 oed o’r enw Pele yn sgorio.

Cawr Tyner

O Billy Meredith i Gareth Bale, Neville Southall a Ryan Giggs, mae Cymru wedi cynhyrchu digonedd o dalent dros y blynyddoedd.

Ond mae John Charles yn sefyll uwchlaw pob un, efallai.

Roedd y gŵr o Abertawe’r un mor effeithiol fel amddiffynnwr cefn ag yr oedd o fel ymosodwr, ond magodd o enw am arwain y ffordd i Leeds ac yna Juventus.

Roedd yn cael ei adnabod fel “Il Gigante Buono” (Y Cawr Tyner) yn ystod ei bum tymor yn yr Eidal ac yn 6’2”, roedd o’n tyrru dros bêl-droed Cymru.

Chwaraeodd yng Nghwpan y Byd 1958, ond collodd o’r gêm allweddol yn erbyn Brasil drwy anaf.

Goliau gwych

Mae foli taranus Mark Hughes yn erbyn Sbaen yn 1985 neu ergyd o bell funud olaf Gareth Bale i guro’r Alban yn 2012 yn byw yn hir yn y cof.

Ond does yno ddim gôl tîm cyfan gwell nag un Brian Flynn yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth Gwledydd Prydain yn 1975.

Derbyniodd Brian Flynn bàs Malcolm Page gan basio’n ôl ac ymlaen gyda John Mahoney a John Toshack cyn taro’r bêl i mewn i’r rhwyd.

“Dyna oedd fy nghap cyntaf i Gymru a’r gôl gyntaf i mi ei sgorio mewn pêl-droed broffesiynol,” meddai Brian Flynn.

“Roedd y pwysau ar bàs John Mahoney yn berffaith – er mod i erioed wedi dweud wrtho – a gwnaeth John Toshack ongl wych i mi ac allwn i ddim methu. Roedd yn wych sgorio gôl mae gymaint o bobl yn ei chofio.”

Marwolaeth ym Mharc Ninian

Ar Fedi 10, 1985, chwaraeodd Cymru yn erbyn yr Alban yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 1986 ym Mharc Ninian.

Hon oedd gêm olaf y ddau dîm yn y grŵp, ac roedd y ddau yn dal yn gallu ennill lle yn y twrnament ym Mecsico; roedd yn rhaid i Gymru ennill y gêm, tra bod yr Alban yn gwybod fod gêm gyfartal yn ddigon.

Llwyddodd yr Alban i gael y gêm gyfartal roedd ei hangen arnyn nhw, gan dorri calonnau’r Cymry.

Cafodd dathliadau’r Alban eu tawelu pan gwympodd eu rheolwr Jock Stein yn anymwybodol ychydig funudau cyn y chwiban olaf, cyn marw yn ystafell driniaeth y stadiwm.

Arwyr Ewro 2016

Wedi 58 mlynedd, dychwelodd Cymru i dwrnament rhyngwladol yn Ewro 2016.

Roedden nhw wedi curo Gwlad Belg, ail dîm gorau’r byd ar y ffordd i Ffrainc, a rhoddodd buddugoliaethau dros Slovakia a Rwsia Gymru ar dop grŵp oedd hefyd yn cynnwys Lloegr.

Sgoriodd Gareth Bale ym mhob gêm grŵp cyn i Gymru sleifio heibio Gogledd Iwerddon o 1-0 i gyfarfod â Gwlad Belg yn yr wyth olaf.

Tarodd tîm Chris Coleman yn ôl o fod ar ei hôl hi wedi 13 munud i ennill o 3-1 mewn un o’r gemau enwocaf erioed yn hanes Cymru.

Yn y rownd gyn-derfynol, collodd Cymru yn erbyn y pencampwyr yn y pen draw, Portiwgal, gydag Aaron Ramsey a Ben Davies yn methu’r gêm.

Doedd dim rhaid disgwyl gymaint i gyrraedd twrnament rhyngwladol y tro yma, fodd bynnag, gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020 o dan Ryan Giggs.

Mae’r twrnament diweddaraf wedi ei ohirio tan haf 2021.