Mae Aled Siôn Davies yn dweud mai gohirio Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo yw’r “peth cywir i’w wneud” yn sgil y coronafeirws.

Fe fu’n siarad â’r BBC am y penderfyniad sydd wedi cael ei wneud, ddyddiau’n unig ar ôl i’r trefnwyr fynnu y byddai’r Gemau’n cael eu cynnal – er bod bron bob digwyddiad chwaraeon arall yn y calendr wedi’i ganslo.

Fe fydd yn rhaid i’r Cymro Cymraeg aros am flwyddyn ychwanegol cyn y bydd yn gallu amddiffyn ei fedal aur yn y taflu pwysau yn dilyn cryn lwyddiant yn Rio de Janeiro bedair blynedd yn ôl.

‘Rhyddhad’

Ond mae’n dweud bod y penderfyniad i ohirio’r Gemau’n “rhyddhad”.

“Roedd pawb eisiau gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd,” meddai.

“Mae’n rhywbeth sydd erioed wedi dod o gwmpas o’r blaen felly does neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.

“Felly, i Tokyo ddod ma’s a dweud bo nhw’n mynd i ddal nôl am flwyddyn, mae e’r peth cywir i wneud achos ni’n gallu aros gartre’ nawr efo’r teulu, gwrando ar y llywodraeth a jyst cadw’n saff.”

‘Ddim yn ddiwedd y byd’

Er gwaetha’r paratoadau gan yr athletwyr ar drothwy’r Gemau, dydy hi “ddim yn ddiwedd y byd”, meddai.

“Mae e ddim ond wedi cael ei wthio’n ôl un flwyddyn, ac mae ’na bethau mwy pwysig o gwmpas ar hyn o bryd.

“Mae rhaid i ni wrando ar y llywodraeth, edrych ar ôl y teulu ac aros gartref, dyna’r peth pwysicaf achos rhaid i ni feddwl am bawb yn y sefyllfa hyn.

“Nawr fi’n gallu helpu pawb arall gartre’ a gobeithio bo ni’n gallu dod ma’s o hyn a pharatoi am Tokyo y flwyddyn nesaf.”

‘Rhyddhad, ond pryderon hefyd’

Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson hefyd o’r farn y bydd athletwyr yn teimlo “rhyddhad”, ond mae’n dweud y bydd pryderon hefyd fod ganddyn nhw lai o amser erbyn hyn i gymhwyso.

“Dw i’n credu bod y mwyafrif o bobol yn teimlo rhyddhad o wybod beth sy’n digwydd,” meddai wrth BBC Radio 4.

“Does neb yn ennill, mewn gwirionedd.

“Dw i’n credu bod yr IOC [y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol] wedi gwneud y penderfyniad cywir i ohirio.

“Mae’n golygu cyfnod cymhwyso byr nawr – mae fel arfer yn gyfnod o ddwy flynedd.

“Er cymaint y bydd yr athletwyr yn teimlo rhyddhad fod y Gemau wedi cael eu gohirio, byddan nhw’n dechrau gofidio nawr am ba mor hir yw’r cyfnod cymhwyso hwnnw.”