Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu ail-ddarlledu ymgyrch Cymru i gyrraedd Ewro 2016 yn ystod y pum wythnos nesaf.
Gan ddechrau ddydd Mercher (Mawrth 25), gall cefnogwyr Cymru ail-wylio’r 10 gêm yn rhad ac am ddim ar wefan Facebook Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Gyda’r pandemig coronafeirws yn golygu fod yn rhaid i bawb aros yn y tŷ, gobaith Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw y bydd cael cyfle i ail-wylio’r ymgyrch yn cynnig ychydig o ryddhad i bobl mewn cyfnod cythryblus.
Bydd y gemau yn cael eu ffrydio yn nhrefn yr ymgyrch am 7:30 yr hwyr bob dydd Mercher ac am 3 yr hwyr bob dydd Sadwrn.
Mae’n gyfle i gefnogwyr y Wal Goch ail-fyw’r ymgyrch a sicrhaodd le i Gymru mewn twrnamaint o’r fath am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd.