Dylai tîm pêl-droed Glasgow Rangers ildio teitl Uwch Gynghrair yr Alban i Glasgow Celtic, yn ôl John Hartson, y Cymro a chyn-ymosodwr Celtic.

Mae gemau wedi’u gohirio tan o leiaf Ebrill 30 yn sgil y coronafeirws a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd modd cwblhau’r tymor.

Mae gan Celtic 13 o bwyntiau’n fwy na’u cymdogion a’u gelynion pennaf ar hyn o bryd, ac mae 24 pwynt ar gael i’w hennill o’r wyth gêm sy’n weddill, ond mae Celtic wedi chwarae un gêm yn fwy na Rangers.

Mae Rangers a Celtic yn awyddus i gwblhau’r tymor pan fydd hynny’n bosib, ond mae Celtic yn mynnu na all yr awdurdodau ganslo’r tymro yn llwyr pe na bai modd ei gwblhau.

Mae hynny’n golygu y byddai’n rhaid i’r awdurdodau ddod o hyd i ffordd deg o benderfynu pwy sy’n ennill y gynghrair.

‘Mae Celtic yn hedfan’

Yn ôl John Hartson, y Cymro Cymraeg o Abertawe, byddai angen i Celtic golli pump o’r wyth gêm sy’n weddill er mwyn i Rangers fod â llygedyn o obaith o ennill y gynghrair.

“Gawn ni fod yn realistig am hynny, dyw e ddim yn mynd i ddigwydd,” meddai.

“Mae Celtic yn hedfan.

“Mae’n edrych fel na fyddwn ni’n ailddechrau a dw i’n teimlo bod gormod o rwystrau yn y ffordd i gael dechrau’r gynghrair eto.

“Pe bai Rangers yn dweud, ‘Iawn, chi yw’r pencampwyr haeddiannol, mae gyda chi flaenoriaeth enfawr a phe bai’r tymor yn dod i ben, Celtic fyddai’n ennill y teitl’, yna bydden nhw’n dod i ffwrdd â llawer o urddas.”

Ond mae John Hartson yn mynnu nad yw’n fwriadol yn cynnig ateb sy’n ffafrio Celtic.

“Galla i ddweud yn gwbl onest y byddwn i’n dweud yn gymwys yr un peth ’tasai gan Rangers flaenoriaeth Celtic.

“Dw i’n gwybod fod hyn yn ddadleuol.”

Synnwyr cyffredin

Beth bynnag fydd yr ateb yn y pen draw, mae John Hartson yn galw am ddefnyddio synnwyr cyffredin.

“Beth sy’n digwydd gyda Hearts [sydd ar waelod y tabl], ydyn nhw’n gostwng pan fo Ann Budge [y perchennog] yn dod allan a bygwth dwyn achos gan bo nhw’n teimlo bod gyda nhw gyfle i fynd yn ddiogel tasen nhw’n chwarae gweddill y tymor?

“Mae’n rhaid i bawb ddod at ei gilydd fan hyn.

“Mae achosion lle gallech chi ddweud, ‘Gawn ni ddefnyddio synnwyr cyffredin fan hyn’.

“A dw i’n teimlo, pe bai Rangers yn gwneud hynny, fel clwb pêl-droed, byddai hynny’n dod â’r byd pêl-droed at ei gilydd, dw i wir yn teimlo hynny.

“Gyda’r holl negatifrwydd yn mynd o gwmpas y byd gyda’r coronafeirws yma, dw i’n credu y bydden nhw’n dod i ffwrdd â pharch enfawr a diolchgarwch gan glybiau eraill.

“Byddai’n beth braf i’w wneud, ond dw i ddim yn dweud y byddai Celtic eisiau i hynny ddigwydd.

“Fyddai e fwy na thebyg ddim yn digwydd a bydda i siŵr o fod yn cael fy saethu i lawr am ddweud hyn, ond byddai’n anghredadwy pe bai rhywbeth fel yna’n digwydd.”