Arhoswch adref, gweithiwch o adref os gallwch, a pheidiwch â mynd allan os nad oes raid ichi oedd neges Prif Weinidog Cymru neithiwr.

Cyhoeddodd Mark Drakeford ei neges fideo ar ôl fesurau newydd llym gael eu cyflwyno ledled Prydain i geisio osgoi lledaeniad haint coronafeirws.

“O hyn ymlaen, bydd pob siop ar y stryd fawr wedi cau, ac eithrio rhai sy’n gwerthu bwyd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post,” meddai yn ei neges.

“Bydd gwasanaethau iechyd, gan gynnwys eich meddyg teulu, yn dal ar agor.

“Rydym yn gofyn i bawb aros gartref – peidiwch â mynd allan ond unwaith y dydd i sopa am fwyd sylfaenol os bydd raid ichi ac i ymarfer corff gerllaw eich cartref.”

Yn gynharach yn y dydd, roedd Mark Drakeford wedi cyhoeddi y byddai meysydd carafanau, gwersylloedd, a lleoedd poblogaidd i ymwelwyr yn cau.

Daeth ei neges ar ôl i gyrchfannau poblogaidd fel Eryri gael eu goresgyn yn llwyr gan ymwelwyr dros y penwythnos.

Cyfanswm yr achosion yn codi i 478

Mae bron i 500 o achosion o’r Coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru bellach ar ôl i 60 o achosion newydd gael eu cadarnhau ers ddoe.

Mae cyfanswm y marwolaethau bellach yn 17 ar ôl i un claf arall farw.

Yn ôl Dr Giri Shankar, y cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r coronafeirws, mae’r haint ym mhob rhan o Gymru bellach.

“Mae 60 o achosion newydd wedi profi’n bositif am y feirws yng Nghymru, gan ddod â’r cyfanswm o achosion sydd wedi eu cadarnhau i 478, er bod gwir nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch,” meddai.