Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o fesurau newydd i fynd i’r afael ag ymlediad y coronafeirws.

Mae’r rhain yn cynnwys cynnal rhagor o brofion a galw ar gyn-feddygon a nyrsys i ddychwelyd i’w gwaith er mwyn lleddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Bydd modd hefyd i fferyllfeydd gyfyngu eu horiau agor er mwyn gwarchod eu gweithwyr, a bydd digon o gyfarpar ar gael i warchod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, gobaith y Llywodraeth yw sicrhau bod hyd at 9,000 o bobol yn gallu cael profion bob dydd erbyn diwedd mis Ebrill.

Mae 280 o bobol wedi profi’n bositif ar gyfer y feirws yng Nghymru erbyn hyn, ar ôl i 89 o achosion newydd gael eu cadarnhau heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 21).

Staffio’r Gwasanaeth Iechyd

Fel rhan o’r ymdrechion i sicrhau mwy o weithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd, fe fydd myfyrwyr blwyddyn olaf yn cael cynnig, ac mae mwy na 5,000 o gyn-feddygon a nyrsys wedi derbyn llythyron yn gofyn iddyn nhw ddychwelyd.

Fe fydd gofyn i weithwyr iechyd sydd wedi ymddeol yn ystod y tair blynedd diwethaf gofrestru ymlaen llaw, gan nodi pa arbenigedd sydd ganddyn nhw a faint o amser sydd ganddyn nhw i’w roi.

“Dw i’n ymwybodol o’r pryderon am argaeledd a safon y cyfarpar sydd ei angen,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Os nad yw’r gweithiwr gofal na’r unigolyn sy’n derbyn gofal yn dangos symptomau, yna does dim angen cyfarpar ychwanegol i’r hyn sy’n arferol ar gyfer arferion hylendid da.

“Mae’n bwysig iawn fod yr holl staff yn defnyddio’r cyfarpar cywir wrth roi gofal uniongyrchol i unrhyw un â symptomau anadlu a allai fod o ganlyniad i Covid-19, gan gynnwys twymyn a pheswch parhaus.”

Profion

Ar hyn o bryd, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnal 800 o brofion bob dydd.

O Ebrill 1, bydd modd cynnal 5,000 o brofion yn rhagor bob dydd.

Erbyn Ebrill 7, bydd hyn yn codi eto o 2,000 ychwanegol a bydd modd cynnal hyd at 9,000 o brofion erbyn diwedd mis Ebrill.

Yn y cyfamser, mae Vaughan Gething yn atgoffa pobol am bwysigrwydd ynysu eu hunain ac “ymbellháu cymdeithasol”.