Bydd Georgia Ruth ac Ani Glass yn perfformio yn fyw ar y We heno… o’u cartrefi.
Oherwydd y coronafeirws, mae’r ddwy wedi gorfod canslo gigs arferol – ond yn cynnal gig yn fyw ar Instagram am wyth o’r gloch heno (dydd Gwener, Mawrth 20).
Heddiw mae Georgia Ruth yn cyhoeddi ei halbym Mai ac roedd hi fod i ddechrau ar daith i hyrwyddo’r albym fyddai wedi para tan Ebrill 4.
Roedd gig gyntaf y daith i fod i gael ei chynnal heno yn Neuadd Goffa Treftadaeth Casnewydd.
Bu i Ani Glass orfod gohirio gigs yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ar y 14eg o Fawrth ac yn y Tangled Parrot, Caerfyrddin ar y 21ain o Fawrth yn sgil y coronafeirws.
Bydd yr holl artistiaid fydd yn perfformio yn fyw ar Instagram yn ffilmio o’u cartrefi gyda ffôn neu laptop.
“Dw i wedi gweld tipyn o artistiaid megis Stella Donnelly yn Awstralia yn gwneud yr un math o beth yn barod,” meddai Ani Glass.
“Dyw technoleg ddim yn rhywbeth dw i’n naturiol yn ei wneud, ond mae’n neis cael gwneud rhywbeth newydd a dod at ein gilydd.”
“Pawb yn colli mas”
Dywed Ani Glass fod “pawb yn colli mas” yn sgil y pandemig coronafeirws.
“Mae’n effeithio ar deithiau, bandiau, pobl dechnegol, lleoliadau creadigol, pobl celf – mae pawb yn colli mas,” meddai.
“Yr unig beth ni’n gallu gwneud yw trio cario ’mlaen a helpu’n gilydd.”