Er bod taith y ddrama Tylwyth wedi dod i ben yr wythnos hon, mae’r awdur wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg y bydd y ddrama yn dychwelyd i’r llwyfan.
Ddechrau’r wythnos fe wnaeth y Theatr Genedlaethol a’r Sherman orfod canslo’r daith oherwydd yr argyfwng coronafeirws.
Daeth y cyhoeddiad “anodd” ddydd Llun y byddai’n rhaid canslo “gweddill y perfformiadau er mwyn gwarchod ein cynulleidfaoedd, staff, actorion a thîm cynhyrchu”.
Roedd Tylwyth wedi profi’n hynod boblogaidd yn theatr y Sherman yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.
“Dw i’n hynod drist bod taith Tylwyth wedi ei chanslo,” meddai Daf James, “ar ôl ymdrechion hynod pawb a fu’n gweithio arni, yn ogystal â’r corau na fydd yn cael y cyfle i berfformio’r tro hwn.
“Ond dw i hefyd yn ddiolchgar ofnadwy bod ni wedi cael y cyfle i agor yn y Sherman wythnos diwethaf. Cefais fy ngwefreiddio gan yr ymateb syfrdanol i’r ddrama, felly braf yw medru dweud mai nid dyma’r diwedd.”
Mae Daf James yn addo y bydd y ddrama “yn dychwelyd” ac yn dweud ei fod yn “edrych ymlaen yn fawr” at rannu Tylwyth eto ar lwyfannau drwy Gymru.
“Aruthrol, anhygoel… bydd yn aros gyda fi am sbel”
Mae cylchgrawn Golwg wedi holi tri a fu yn gweld Tylwyth – ac mae pob un wedi rhoi marciau llawn a phum seren i’r ddrama.
Dywedodd y cyflwynydd teledu Angharad Mair ei bod wedi mwynhau “yn aruthrol. Roedd y cynhyrchiad yn anhygoel, a bydd yn aros gyda fi am sbel”.
Ychwanegodd Hefin Jones, sy’n Ecolegydd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Wedi fy ysgwyd a dweud y gwir gan bŵer y ddrama, y perfformiad a’r cynhyrchiad. Dydw i ddim yn aficionado drama o bell ffordd, ond dyma un o’r cyflwyniadau gorau i mi ei brofi ers hydoedd.”
Darllenwch yr ymateb llawn i ddrama Tylwyth yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg