Mae S4C wedi talu teyrnged i’w cyn-gadeirydd Prys Edwards, sydd wedi marw’n 78 oed.
Fe fu mab Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, yn byw â chyflwr Parkinson ers rhai blynyddoedd.
Yn bensaer wrth ei waith, roedd yn frawd i’r diweddar Owen Edwards, prif weithredwr cynta’r sianel ac roedd yntau’n gadeirydd rhwng 1992 a 1998, ac yn llywydd Bwrdd Croeso Cymru o 1984 i 1992.
Roedd hefyd yn aelod o fyrddau Awdurdod Twristiaeth Prydain, Canolfan y Mileniwm a Cadw.
Mae’n gadael gwraig a dau o blant.
‘Arweinydd wrth reddf’
“Roedd Prys yn arweinydd wrth reddf, yn barod i fentro ac arloesi a gwthio’r ffiniau,” meddai Owen Evans, prif weithredwr S4C.
“Gwnaeth gyfraniad mawr mewn cyfnod cyffrous i S4C wrth i ddatblygiadau teledu digidol ddod i rym yng nghanol y 90au.
“Roedd arweiniad Prys yn allweddol gan sicrhau fod S4C ar flaen y gad ac yn rhan o’r chwyldro digidol.
“Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gyda’i wraig Cath, ei blant Lisa a Sion a’i deulu a’i ffrindiau.”
Yr Urdd
Chwaraeodd e ran blaenllaw yn yr Urdd ar hyd ei oes, gan ddal nifer o swyddi, gan gynnwys ysgrifennydd mygedol, trysorydd, cadeirydd a llywydd ac yna’n llywydd anrhydeddus.
Fe fu hefyd yn aelod o’r Urdd, yn swyddog, yn arweinydd Aelwyd Aberystwyth ac yn arweinydd ymgyrch y mudiad i sicrhau Deddf Iaith Gymraeg.