Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r flaenoriaeth i gynnal profion am y coronafeirws i bobl efo symptomau difrifol yn unig erbyn hyn.
Dywed y Llywodraeth y bydd hyn yn lleddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 30 o achosion newydd o’r haint Covid-19 yng Nghymru ddydd Llun (Mawrth 16) gan ddod a’r cyfanswm yn y wlad i 124.
Dywed llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: “Fel blaenoriaeth, bydd profion yn canolbwyntio ar y rhai sydd â symptomau difrifol.
“Mae hyn yn galluogi’r Gwasanaeth Iechyd i gael mwy o le i gynnal profion mewn ysbytai lle mae’r cleifion mwyaf bregus yn cael gofal.”
Mae gofyn i’r rhai sydd â symptomau fel tymheredd uchel a/neu beswch parhaus i hunanynysu am saith diwrnod.