Mae’r band Calan yn dweud ei bod hi’n “amser mynd adre” ar ôl canslo gweddill eu taith yn yr Unol Daleithiau oherwydd Coronafeirws.
Daw’r neges ar ôl iddyn nhw berfformio yn Des Moines yn Iowa neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 15), cyn i gyfyngiadau teithio ar bobol o wledydd Prydain gael eu cyhoeddi gan yr Arlywydd Donald Trump.
Mae’r cyfyngiadau teithio’n golygu na all unrhyw un o wledydd Prydain deithio i mewn i’r wlad, a bod yn rhaid i unrhyw un o’r gwledydd adael a mynd adref.
Ac maen nhw’n dweud eu bo nhw wedi dechrau colli arian oherwydd niferoedd isel o bobol yn eu cyngherddau.
Y gig olaf
Maen nhw wedi bod yn disgrifio’r profiad o chwarae’r gig olaf ar y daith.
“Daethon nhw allan i’n gweld ni pan fo pobman arall ynghau, a phob digwyddiad arall wedi cael ei ganslo am resymau diogelwch,” meddai’r band ar Facebook.
“Rydym yn gwybod na fydd yn syndod enfawr i chi, bobol, ond oherwydd yr amgylchiadau sy’n newid o hyd ynghylch epidemig COVID-19, mae gweddill ein taith wedi cael ei chanslo.
“Rydym wedi ceisio parhau ac wedi treulio’r wythnos ddiwethaf yn bwrw ymlaen, ond mae cynifer o leoliadau bellach wedi canslo fel na allwn ni fforddio aros yma chwaith.”
Pryderon am ddod adref
Dywed y band eu bod nhw’n gofidio na fyddan nhw’n cael dod adref pe baen nhw’n aros yn yr Unol Daleithiau lawer hirach.
“Fe fu hwn yn benderfyniad anodd dros ben i’w wneud, oherwydd nid yn unig y gallai ein torri ni’n ariannol oherwydd costau teithiau awyr, fisas, llety a ffioedd sydd wedi’u colli, ond mae hefyd yn golygu ein bod ni wedi colli’r cyfle i wneud y gwaith rydyn ni’n ei garu cymaint, ac rydym yn gorfod rhoi’r gorau i’n hangerdd am ledaenu cerddoriaeth Gymraeg ar draws y byd am y dyfodol rhagweladwy.
“Fe fydd hwn yn amser anarferol o heriol i ni oherwydd bod ein taith 23 dyddiad yn y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill hefyd yn y fantol.
“Rydym yn gwybod y bydd yr holl gerddorion hunangyflogedig a busnesau bychain yn wynebu sefyllfaoedd tebyg.
“Gadewch i ni geisio gofalu am ein gilydd.”
‘Cefnogwch ein penderfyniad’
Mae’r band wedyn yn gofyn i bobol “ddeall y penderfyniad”.
“Rydym nawr yn wynebu gorfod dod adref cyn Mawrth 22 a phenderfynu sut i dorri costau er mwyn goroesi cyfnod estynedig o golli incwm.
“Rydym yn gofyn i chi gefnogi ein penderfyniad yn ystod yr hyn sy’n amser llawn straen ac ansicrwydd i bawb.
“Gobeithio eich bod chi’n deall fod y penderfyniad hwn yn un sydd wedi peri loes i ni i’w wneud er mwyn sicrhau diogelwch pawb.
“Yn bwysicaf oll, cadwch yn ddiogel ac yn iach.
“Rydym yn caru pawb sydd wedi dangos eu bod nhw’n credu ynom ni ac wedi ein bwcio ni ar gyfer cyngerdd, a phawb sy’n troi lan i wrando ar ein halawon a’n straeon gwallgof.
“Amser mynd adre.”