Fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain, mae cynllun gwyddoniaeth i ddenu pobl ifanc i yrfaoedd mewn peirianneg wedi ei ymestyn i ysgolion cynradd

Hyd yn hyn disgyblion uwchradd yn unig sydd wedi bod yn ymgymryd â gweithgareddau Cynllun Addysg Peirianneg Cymru.

Nod y cynllun yw datblygu sgiliau mewn dylunio meddalwedd a gweithgynhyrchu digidol ac annog plant i ddilyn gyrfaoedd mewn peirianneg STEM (Science, Technology, Engineering and Mathematics).

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Mae’n bwysig i dwf economaidd yng Nghymru fod gennym ddigon o bobl yn mynd i yrfaoedd STEM. Felly po ieuengaf rydyn ni’n rhoi cyfle i’n plant ddysgu am wyddoniaeth – ac mewn ffordd hwyliog a gafaelgar – y mwyaf tebygol ydyn nhw o fagu’r hyder a’r sgiliau i astudio pynciau gwyddoniaeth yn ddiweddarach yn eu gyrfaoedd.”

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gweithgareddau sy’n hyrwyddo gyrfaoedd peirianneg ymhlith merched.

“Un o fy mlaenoriaethau hefyd yw cael mwy o ferched ifanc i mewn i bynciau STEM,” ychwanegodd Kirsty Williams.

“Bydd ehangu’r cynllun i fyfyrwyr iau ac i fwy o rannau o Gymru yn caniatáu i fwy o ferched gredu bod gyrfa mewn gwyddoniaeth neu beirianneg ar eu cyfer.”