Plismon o Ferthyr Tudful yw un o’r rhai sy’n dioddef o coronavirus, yn ôl adroddiadau.

Bu’n rhaid cau’r orsaf heddlu yn y dref neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 10) i’w glanhau’n drylwyr.

Yn ôl yr heddlu, mae’r plismon wedi ynysu ei hun, ac roedd modd agor yr orsaf yn Rhydycar eto heddiw (dydd Mercher, Mawrth 11).

Daw’r adroddiadau ar y diwrnod pan ddaeth cadarnhad bod un o weithwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd ymhlith y 15 o bobol sydd wedi’u heintio yng Nghymru.

Ac mae Canolfan Iechyd Llanedern wedi’i chau ar sail cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd amheuon am coronavirus.

Mae cleifion wedi’u cynghori i fynd i Lanrhymni am y tro.