Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu Cyllideb “ddewr” Rishi Sunak, Canghellor San Steffan.
Fel rhan o’r cyhoeddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cael addewid o £360m ychwanegol, ac fe fydd arian yn cael ei neilltuo ar gyfer ffordd osgoi Llanymynech ac amddiffynfeydd llifogydd a fydd o fudd i rannau o Gymru sydd wedi diodde’n ddiweddar.
Mae £30bn hefyd wedi cael ei glustnodi i fynd i’r afael â coronavirus, gyda nifer yr achosion yng Nghymru’n cynyddu.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, y Gyllideb hon yw’r “hyn sydd ei angen ar y Deyrnas Unedig”.
‘Pragmatig a synhwyrol’
Yn ôl Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r Gyllideb yn “bragmatig a synhwyrol”.
“Y Gyllideb ddewr hon – yn erbyn cefnlen lledaeniad coronavirus ar hyn o bryd, yw’r peth sydd ei angen ar y wlad hon,” meddai.
“Mae’n bragmatig ac yn synhwyrol i bobol a busnesau Cymru a’r Deyrnas Unedig gyfan.
“Dw i’n arbennig o falch gyda rhewi cymhorthdal treth diesel coch a’r sêl bendith i ffordd osgoi drawsffiniol Pant-Llanymynech ac, wrth gwrs, codi’r trothwy Yswiriant Gwladol a fydd o fudd i lawer iawn, iawn o bobol yng Nghymru.”
Lladd ar Lafur
Mae e wedi achub ar y cyfle i feirniadu Llywodraeth Lafur Cymru, gan ddweud y bydd “ein ffrindiau yr ochr draw i bontydd Hafren yn elwa mewn ffyrdd na fyddwn ni”.
“Er enghraifft, bydd busnesau llai yn Lloegr yn elwa – mewn ymgais i gydbwyso yn erbyn peth o ganlyniad tebygol coronavirus – o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiddymu cyfraddau busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig eleni.
“Tra bod i’r Gyllideb hon fwriad clir a chyraeddadwy i gyflawni, yma yng Nghymru ddatganoledig, rhaid i ni ddibynnu ar weinyddiaeth Lafur Cymru fethedig sydd wedi methu ers dau ddegawd â chyflawni unrhyw beth.”