Alistair Campbell
Mae Alastair Campbell wedi bod yn darllen copi o Golwg yn Ffrainc, dros fis ar ôl iddo gael ei gyfweld gan y cylchgrawn.
Roedd ymgynghorydd y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, wedi ei gyfweld gan y newyddiadurwr Tommie Collins wrth i’r ddau seiclo yn ne’r wlad.
Roedd y ddau yno’n seiclo i fyny’r Ventoux, llwybr mynyddig sy’n rhan o ras enwog y Tour de France.
Bachodd Tommie Collins, o Borthmadog, y cyfle i’w holi am ei gyfnod mewn llywodreath ac ymddangosodd y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 15 Medi.
Ar ôl darllen y cyfweliad yn Golwg trydarodd Alistair Campbell: “Byd bach – yn Ffrainc, newydd gael copi o fy nghyfweliad gyda’r papur newydd Cymraeg Golwg.”