Mae golwg360 wedi gweld e-bost gan Brifysgol Aberystwyth sydd yn argymell y dylai aelodau staff baratoi ar gyfer gweithio o adref oherwydd amhariadau posib oherwydd coronavirus.

Mae’r e-bost, a gafodd ei gyrru i staff y brifysgol yr wythnos yma, yn nodi y dylai pob aelod o staff fedru defnyddio rhwydwaith y Brifysgol a’r systemau cysylltiedig pe bai angen gweithio o bell neu o adref.

Mae gofyn iddyn nhw brofi eu bod nhw’n medru defnyddio’r cyswllt cartref a rhwydwaith y Brifysgol mewn da bryd, er mwyn sicrhau bod modd datrys unrhyw broblemau cyn y bydd gofyn iddyn nhw weithio o adref.

Er bod nifer o ddarlithwyr eisoes yn defnyddio’r cyswllt cartref ar gyfer marcio traethodau a derbyn e-byst, mae aelod o staff yn dweud wrth Golwg360 fod y sefyllfa’n dal yn aneglur, ac nad yw hi’n glir a fydd disgwyl i ddarlithwyr ac aelodau o staff gynnal darlithoedd a seminarau o gartref.

Does dim achosion o’r firws yn Aberystwyth, ond mae disgwyl iddo fod ar ei anterth erbyn mis Mai, pan fydd arholiadau semester 2 y brifysgol yn cael eu cynnal.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn disgwyl bydd mwy o achosion o’r feirws yng Nghymru dros y dyddiau nesaf.

Hyd yn hyn mae 6 achos wedi ei gadarnhau yng Nghymru.

Yr e-bost

“Fel rhan o baratoadau’r Brifysgol ar gyfer ar gyfer amhariadau posib oherwydd Coronafeirws, gofynnwyd i sicrhau bod pob aelod o staff yn medru defnyddio rhwydwaith y Brifysgol a’r systemau cysylltiedig pe bai angen gweithio o bell neu o adref,” meddai’r e-bost.

“Er mwyn gwneud hynny, bydd angen sefydlu Dilysu Aml-Ffactor, sy’n gofyn cymryd rhai camau tra ar gampws y Brifysgol. Mae canllawiau ar y camau angenrheidiol ar gael yn: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=1547.

“Gofynnir i gydweithwyr brofi eu bod yn medru defnyddio rhwydwaith a systemau’r Brifysgol mewn da bryd, er mwyn sicrhau y gellir datrys unrhyw broblemau cyn y bydd y gofyn i weithio o bell/adref yn codi.

“Gall y ddesg gymorth Gwasanaethau Gwybodaeth gynorthwyo gydag unrhyw wybodaeth bellach neu ddatrys unrhyw broblemau….”