Mae mwy o’r bobol nag erioed o’r blaen yn teithio ar drenau yng Nghymru, yn ôl ffigyrau newydd.

Dechreuodd neu gorffennodd 26m o deithiau trên yng Nghymru yn 2009-10, 3% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.

Daw’r cynnydd yng Nghymru er gwaethaf cwymp ar draws Prydain a Gogledd Iwerddon yn gyffredinol, lle y disgynnodd nifer y teithiau 0.64%.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n bwriadu parhau i gynnig cynlluniau tocynnau trên rhatach ar bedair rheilffordd wledig am ddwy flynedd arall.

Bydd teithiwr sydd â thrwydded Cerdyn Cymru yn gallu teithio ar lein Canol Cymru a lein Arfordir Cambria yn ystod misoedd y gaeaf.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Carl Sargeant, fod yr ystadegau diweddaraf yn cefnogi eu penderfyniad i ymestyn y cynlluniau ymhellach.