Mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi ‘Diwrnod y Llyfr’ trwy ddarllen rhannau o’r Mabinogi i blant ysgol yn Aberystwyth.
Cafodd y sesiwn stori ei chynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a chafodd disgyblion ‘Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant’ gyfle i weld copi o lawysgrif Llyfr Gwyn Rhydderch, sy’n cynnwys y casgliad cynharaf o geinciau’r Mabinogi.
Mae ‘Diwrnod y Llyfr’ yn cael ei gynnal pob blwyddyn gyda’r nod o annog y byd i ddarllen a chyhoeddi llyfrau.
Ac ar y diwrnod hwn mae Mark Drakeford wedi galw ar Gymru i “ysgogi ein pobl ifanc i garu darllen.”
“Rhannu straeon yw ein ffordd fwyaf swynol o gyfathrebu, a dylem fachu ar unrhyw gyfle i annog ein plant i ymgolli yn eu hud,” meddai.
“Trwyddynt, mae bydysawd o bosibiliadau diddiwedd yn tanio dychymyg heb ffiniau. Trwyddynt, gellir magu gwell ddealltwriaeth o fydoedd cymhleth a gwahanol safbwyntiau.”