Mae cerddwr 19 oed a fu farw mewn damwain yn y Barri fore Sadwrn, Chwefror 29, wedi cael ei enwi.
Mewn teyrnged i Mason Richardson, dywedodd teulu’r dyn 19 oed o Lanilltud Fawr ei fod yn gymeriad hoffus, ac y bydd colled fawr ar ei ôl.
Ychwanegodd y teulu eu bod nhw’n diolch am y gefnogaeth maen nhw wedi ei derbyn.
“Diolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon o gydymdeimlad, teyrngedau a blodau yn ystod yr amser anodd hwn,” meddai’r teulu mewn datganiad.
“Roedd Mason yn fab a ffrind annwyl iawn, roedd pawb yn ei garu a bydd colled fawr ar ei ôl e.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth yn dilyn y ddamwain ar yr A4226 yn y Barri.
Maen nhw’n gofyn i unrhyw un a welodd Citroen C1 lliw glas, neu ddau gerddwr yn yr ardal tua 2:30 y bore, i gysylltu â nhw.