Mae cytgan ‘Anfonaf Angel’ gan Robat Arwyn yn “llawer brafiach” i’w chanu na ‘God Save The Queen’ wrth olchi eich dwylo, yn ôl Cyfarwyddwr Cerdd newydd Côr Meibion Dinbych.

Mae Nia Wyn Jones, sydd newydd ddychwelyd i’r côr ar ôl bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cerdd yn y gorffennol, wedi trydar ei hawgrym wrth ymateb i gyngor Llywodraeth Prydain ynghylch caneuon sydd o hyd addas i olchi dwylo’n ddigonol wrth geisio atal neu osgoi lledaenu coronavirus.

Y cyngor sy’n cael ei roi yw y dylid golchi dwylo am o leiaf 20 eiliad – neu ddau gytgan o’r naill gân neu’r llall.

Mae’r neges wedi cael ei hoffi nifer o weithiau.