Mae mudiad annibyniaeth Yes Cymru wedi codi £5,610 ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd diweddar.

Cafodd yr arian ei godi mewn ychydig dros wythnos, ac fe fydd yn cael ei drosglwyddo i’r apêl sydd wedi’i sefydlu gan yr actor Michael Sheen.

Fe fu aelodau’r mudiad yn helpu i lanhau ym Mhontypridd yn dilyn dinistr yn y dref, ac mae Yes Cymru hefyd wedi cyfrannu £1,000 tuag at y gwaith o adfer Clwb y Bont, clwb Cymraeg y dref a gafodd ei ddifrodi’n sylweddol.

Mae aelodau hefyd wedi talu am beiriannau i sychu eiddo yn ardal Trehafod.

‘Angen mwy o bwerau’

“Profodd y stormydd diweddaraf i daro Cymru bod angen i Gymru fod â rheolaeth lawn dros ei holl adnoddau a gwasanaethau er mwyn osgoi a lliniaru’r trallod a achosir gan stormydd,” meddai Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru.

“Dangosodd hefyd wytnwch cymunedau ar hyd a lled Cymru wrth i bobl helpu ei gilydd, fe wnaeth y cynghorau a Llywodraeth Cymru arwain y blaen, ac rwy’n falch o ddweud bod YesCymru a’n cefnogwyr a’n haelodau wedi helpu trwy roi cymorth ymarferol, ac hefyd trwy roi eu dwylo yn eu pocedi a chyfrannu at Apêl Storm Dennis YesCymru – a sawl apêl arall hefyd.

“Cafodd Cymru ei churo – ond fe wnaethon ni gefnogi ein gilydd.”