Mae bachwr tîm rygbi Cymru wedi datgelu iddo golli “degau o filoedd o bunnau” yn hapchwarae.

Dywedodd Scott Baldwin wrth bodlediad Scum V y BBC ei fod bellach wedi rhoi’r gorau i’r gamblo, oherwydd fod ganddo deulu ifanc.

Fe chwaraeodd y bachwr 34 o weithiau i Gymru rhwng 2013 a 2017 ac mae bellach yn chwarae i’r Harlecwiniaid yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Bu yn gamblo yn ei ieuenctid, gan gychwyn yn 15 oed, cyn rhoi’r gorau iddi yn 2015.

“Wnes i erioed fynd i ddyled yn gamblo,” meddai Scott Baldwin, “ond fe wnes i golli lot fawr o arian na ddylwn i fod wedi ei golli…

“Dim ond pan wnes i gyfarfod fy ngwraig a chael fy mab bach y gwnes i roi’r gorau iddi.”