Mae ysgol filfeddygol gyntaf Cymru yn cael ei lansio yn Aberystwyth heddiw (dydd Gwener, Chwefror 28).
Mae’r Coleg Milfeddygol Brenhinol mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, wedi cydweithio er mwyn sefydlu’r cwrs.
Bydd y radd bum mlynedd, sy’n croesawu eu myfyrwyr cyntaf fis Medi 2021, yn gweld myfyrwyr yn treulio dwy flynedd yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn astudio yng nghampws y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn Swydd Hertford am dair blynedd.
Bydd y cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar ffermio da byw.
“Pennod newydd a chyffrous”
“Rydym wrth ein boddau i fod yn sefydlu partneriaeth gyda’n cydweithwyr yn Aberystwyth wrth ddarparu cwrs sydd o fudd i ddisgyblion yn y ddau sefydliad,” meddai pennaeth y Coleg Milfeddygol Brenhinol, yr Athro Stuart Reid.
Dywed Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae heddiw yn nodi pennod newydd a chyffrous yn hanes Prifysgol Aberystwyth a Chymru.”
Bydd y lansiad sy’n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Gwener, Chwefror 28) yn cael ei fynychu gan yr Athro Christianne Glossop, prif swyddog milfeddygol Cymru, a’r Athro Stuart Reid, pennaeth y Coleg Milfeddygol Brenhinol.