Mae cynghorydd yng Ngheredigion yn “argymell yn gryf” fod busnesau’r sir yn ceisio am arian o gronfa arbennig i gael ailddefnyddio adeiladau.
Mae’r ‘Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo Canol Tref Canolbarth Cymru’ ar gael i berchnogion adeiladau a all gael eu defnyddio er dibenion masnachol, ond sydd yn cael eu tanddefnyddio.
Mae trigolion Llandysul, Tregaron, a Llanbedr Pont Steffan ymhlith y rheiny all elwa ohoni, ac mae hi hefyd ar gael i bobol Powys yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd.
Mae’r Cynghorydd Sir, Rhodri Evans yn egluro bod cost datblygu eiddo “gan amlaf yn uwch na gwerth yr eiddo” a bod grantiau’r gronfa yn helpu mynd i’r afael â hynny.
Cyngor y cynghorydd
“Nod grantiau’r Gronfa yw cau’r bwlch hwnnw yn y farchnad a chefnogi cynlluniau busnesau lleol i ehangu,” meddai.
“Os yw cost adnewyddu adeilad sy’n cael ei danddefnyddio yn atal eich cynlluniau i ehangu eich busnes, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â’ch swyddog lleol i weld a all y grant eich helpu.
“Mae hyn yn bwysig i fusnesau lleol a’r economi ehangach.”