“Mae ein partneriaid pwysicaf dros afon Hafren”, yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas sydd wedi ymateb i lansio prosbectws Porth y Gorllewin.
Mae’r Porth Gorllewinol yn cwmpasu de Cymru a gorllewin Lloegr, a bwriad y bartneriaeth newydd yw hybu’r economi leol wrth i’r rhanbarthau trawsffiniol weithio gyda’i gilydd.
Mae’r prosbectws newydd yn amlinellu prif weledigaeth ac uchelgais y bartneriaeth economaidd hon.
Mae wedi cael ei ddatblygu ar sail trafodaethau rhwng awdurdodau lleol, busnesau, LEP a rhanbarthau dinesig.
Erbyn 2030, mae partneriaeth Porth y Gorllewin yn honni y daw’r weledigaeth newydd yma â mwy na £56bn i economi Prydain.
Blaenoriaeth i dri pheth
Yn y prosbectws, bydd Porth y Gorllewin yn rhoi blaenoriaeth i:
- gysylltedd
- torri tir newydd
- a chydweithio cenedlaethol wrth fasnachu a buddsoddi
“Mae Caerdydd yn brifddinas gyda chysylltiadau ar draws Cymru a’r byd,” meddai Huw Thomas.
“Ond o bosib, mae ein partneriaid pwysicaf dros yr afon Hafren.
“Rydym yn dod ynghyd i ennill buddsoddiadau rhyngwladol ac arian i greu’r seilwaith gan y llywodraeth, arian yr ydym ni yma yn ne Cymru a’r Gorllewin ei angen fel ein bod yn gallu arwain chwyldro ddiwydiannol sero net sydd yn creu Prydain lannach a thecach.”
Creu twf o Abertawe i Swindon yw’r nod yng Nghymru, yn ôl cadeirydd Porth y Gorllewin.
“Mae ein prospectws yn cynnig darlun o’r daith yr ydym ni yn ei dilyn gyda’n gilydd yn y bartneriaeth rhwng busnesau ac awdurdodau, sydd yn benderfynol o greu twf o Abertawe i Swindon, Cheltenham i Weston,” meddai Katherine Bennett.