Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i Gyfamod i sicrhau bod milwyr, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael eu trin â thegwch a pharch yn eu cymunedau, yn yr economi ac yn y gymdeithas wrth roi o’u bywydau i eraill.
Fel rhan o’u hadduned, bydd Trafnidiaeth Cymru’n sicrhau na fydd aelod o’r lluoedd arfog yn wynebu unrhyw anfantais yn ystod proses recriwtio.
Yn ogystal â hyn, gallai triniaeth arbennig fod yn briodol o dan rai amgylchiadau, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd wedi eu hanafu neu’r rhai sy’n galaru.
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gefnogi cymuned y lluoedd arfog, ac rydym wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac yn ymrwymo iddo,” meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru.
“Rydym yn sefydliad agored a thryloyw, yn cyflwyno rhaglen fuddsoddi gwerth £5 biliwn i weddnewid trafnidiaeth y genedl.
“Rydym yn dal i dyfu a recriwtio, ac yn croesawu ymgeiswyr o’r lluoedd arfog a ddaw â chyfoeth o sgiliau galwedigaethol a phrofiad gyda nhw.”
‘Unigolion medrus, dawnus ac ymroddedig’
Meddai Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen y Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru,
“Fel cyn filwyr a wasanaethodd am 14 o flynyddoedd, rwy’n falch o gefnogi addewid Trafnidiaeth Cymru i Gyfamod y Lluoedd Arfog,” meddai Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
“Dyma gyfle i elwa ar gronfa o unigolion medrus, dawnus ac ymroddedig o’r lluoedd arfog, er mwyn helpu Trafnidiaeth Cymru i drawsnewid trafnidiaeth y genedl.”