Mae Llywodraeth Cymru yn agosáu at gyflawni Cymru Ddigidol, wrth i Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, gyhoeddi dechrau’r broses o weithio tuag at ganolfan gwasanaethau digidol cyhoeddus.

Bydd yn helpu i adnewyddu gwasanaethau digidol ar draws sector cyhoeddus Cymru, gan ddatblygu system sylfaenol, fwy cyfeillgar sydd yn addas i’r unfed ganrif ar ddeg.

Yn ystod y chwe mis nesaf bydd corff annibynnol yn gweithio gyda staff ar draws y sector cyhoeddus a phreifat i drafod yr heriau fydd yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod cyntaf.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • darparu academi sgiliau digidol wedi ei lleoli yng Nglyn Ebwy. Yma bydd rhaglen arweinyddiaeth ddigidol ar gyfer arweinwyr uwch o holl sectorau cyhoeddus Cymru. Bydd y tîm yn cydweithio’n agos â phartneriaid hyfforddi i bennu lefel yr hyfforddiant fydd ei angen yng Nghymru.
  • darparu cyfnod prawf wyth wythnos ar wasanaeth cyhoeddus penodol – er mwyn arddangos sut y gallan nhw lunio a darparu gwasanaethau hawdd eu defnyddio.  Bydd y cam hwn dan arweiniad tîm bach o arbenigwyr digidol, ac yn rhoi cyfle i brofi problemau defnyddwyr go iawn, er mwyn deall pam eu bod yn bodoli ac i ddatblygu atebion posib.
  • Creu man rhannu gwybodaeth – a fydd yn cael ei ddefnyddio i rannu straeon defnyddwyr, cadarnhaol ac o bosib yn llai cadarnhaol, strategaethau a chynlluniau digidol, safonau cyffredin a helpu sefydliadau i gyflawni ymchwil defnyddwyr effeithiol.

“Mae trawsnewid digidol yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y ffyrdd mae pobl yn eu disgwyl a newid cymunedau Cymru er gwell – ond rhaid i ni weithio gyda’n gilydd,” meddai Rebecca Evans yn dilyn ei chyhoeddiad.

“Rwy’n falch iawn, wrth weithio gyda’m cydweithwyr yn y Cabinet, bod cyfle nawr i brofi prosesau a gwasanaethau cyson, wedi’u llunio gan y defnyddwyr, ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.”