Ni fydd y Gweilch yn teithio i’r Eidal y penwythnos hwn oherwydd pryderon am yr afiechyd coronavirus yn Yr Eidal.

Roedd disgwyl i dîm rygbi’r Gweilch chwarae yn erbyn Zebre, yn ninas Parma, yng nghystadleuaeth y Pro14.

Mae dros 165 o achosion o Coronavirus wedi eu cofnodi yn Yr Eidal – y nifer uchaf yn Ewrop.

Mae 6 o bobol wedi marw o’r afiechyd yn Yr Eidal erbyn hyn.

O ganlyniad i hyn mae’r awdurdodau yn Yr Eidal wedi rhoi cyfyngiadau ar ddigwyddiadau cyhoeddus a chwaraeon yn rhanbarthau Lombardia, Emilia-Romagna a Veneto.

“Diogelwch”

Mewn datganiad dywedodd y Gweilch eu bod nhw’n gobeithio aildrefnu’r gêm yn fuan, ond mai diogelwch y chwaraewyr a’u cefnogwyr yw’r flaenoriaeth.

“Er mwyn sicrhau diogelwch ein chwaraewyr a’n cefnogwyr, rydym yn llwyr gefnogi’r mesurau sydd wedi eu cymryd yn Yr Eidal.”

Cafodd gêm rhwng merched Yr Eidal a merched Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ei gohirio’r penwythnos diwethaf, ynghyd a nifer o gemau pêl droed oherwydd yr afiechyd.

Er i Benetton deithio i Gaerdydd i wynebu’r Gleision dros y penwythnos mae’r gêm rhwng Benetton ac Ulster y penwythnos nesaf yn y Pro14 hefyd wedi ei gohirio.

Mae gemau ym mhencampwriaeth rygbi cenedlaethol yr Eidal, a’r holl gemau rygbi domestig hefyd wedi’u gohirio’r penwythnos hwn.

Mae’r cyfyngiadau mewn lle tan o leiaf ddydd Sul, Mawrth 1.

Mae disgwyl i dimau rygbi’r Eidal deithio i Iwerddon ymhen pythefnos, cyn i dîm rygbi Lloegr wynebu’r Eidal yn Rhufain yn rownd olaf y Chwe Gwlad.

Does dim cadarnhad eto os yw’r gemau rhyngwladol yma wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau.

“Consyrn”

Dywedodd yr artist Dewi Tudur, sy’n byw yn ninas Florence, wrth Golwg360, fod y datblygiadau diweddar yn destun pryder mawr i nifer o bobol sy’n byw yn Yr Eidal.

Eglurodd mai yng ngogledd y wlad mae’r nifer mwyaf o achosion: “Ma na ‘lockdown’ mewn nifer o’r dinasoedd yn y Gogledd. Ardal Lombardia ydy’r gwaethaf. Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu canslo hefyd, fel carnifal mawr Venezia.

“Mae’r datblygiadau heddiw yn gonsyrn mawr i nifer o bobol yn yr Eidal.”