Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar wrth gerdded yn Llanelli neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 22).

Cafodd y dyn 53 oed ei daro gan gar Suzuki Swift lliw gwyn yn Stryd yr Eglwys ger y llys ynadon am oddeutu 8.15yh, yn ôl yr heddlu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle o ganlyniad i’w anafiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu ddeunydd dashcam ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.