Bydd y Tywysog Charles yn ymweld â thref Pontypridd heddiw (Chwefror 21) i gwrdd â thrigolion a busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd diweddar.

Mewn ymweliad oedd eisoes wedi ei drefnu i dde Cymru, bydd y Tywysog hefyd yn ymweld â ffatri drenau CAF yng Nghasnewydd, ffatri Aston Martin yn Sain Tathan, Maes Awyr Caerdydd a Hosbis Marie Curie yn y brif ddinas.

Mae rhybuddion tywydd yn parhau i fod mewn grym mewn rhai ardaloedd yng Nghymru wrth i’r tywydd ansefydlog barhau ar draws y Deyrnas Unedig.