Mae’r cwmni gwerthu-ar-y-We, Amazon, wedi cyhoeddi cwymp mawr yn ei elw yn ystod y tri mis diwetha’.

Ond mae penaethiaid y busnes, sydd â warws mawr newydd yn Abertawe, yn dweud eu bod wedi buddsoddi llawer o arian yn eu peiriant llyfrau, Kindle.

Fe syrthiodd gwerth cyfrannau’r cwmni’n sylweddol ar ôl y newyddion – roedd arbenigwyr ariannol wedi disgwyl gwell.

Fe gyhoeddodd y cwmni fod eu helw tros y tri mis ychydig dan £40 miliwn o’i gymharu â mwy na £144 miliwn yr un adeg y llynedd.

Mae hynny’n gwymp o 73% ac fe syrthiodd gwerth cyfrannau’r cwmni o tuag 20% ar farchnadoedd yr Unol Daleithiau.

Er hynny, roedd incwm y cwmni wedi codi – yr hyn sy’n poeni’r marchnadoedd yw fod canran yr elw mor isel.

Roedden nhw wedi disgwyl ffigurau gwell o ran incwm ac elw.