Mae Sion Jobbins, Cadeirydd Yes Cymru, yn dweud wrth golwg360 ei bod hi’n bwysig iddyn nhw fel mudiad “ddangos cefnogaeth ac i fod yn ymarferol” wedi iddyn nhw sefydlu apêl genedlaethol yn dilyn y llifogydd.

“Rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn sefyll yn y bwlch ac yn edrych ar sut y digwyddodd hyn,” meddai Sion Jobbins.

“Er, rydym ni wedi cael dwy storm fawr o fewn wythnos, felly rwy’n credu fod pobol yn deall y cyd-destun.

“Ond rwy’n gobeithio fod yna arian ar gael i edrych ar ôl y difrod, a gwneud yn siŵr na fydd e’n digwydd eto.”

“Ond mae hefyd eisiau edrych o ble mae’r arian yn dod. Os oes ‘na arian yn mynd i Loegr mae eisiau sicrhau fod arian yn dod i Gymru hefyd, neu fod gan Gymru ei harian ei hunan i helpu’r achos.”

‘Pob apêl yn bwysig’

Mae Sion Jobbins yn teimlo fod pob apêl mewn achos fel hyn yn bwysig, ac mae’n gobeithio y  bydd pobol yn cefnogi pa bynnag apêl maen nhw’n dymuno.

“Roedd aelodau Yes Cymru yn teimlo ei bod hi’n bwysig i ni godi arian,” meddai.

“Mae ’na bron i 20,000 yn ein dilyn ni ar Twitter a rhyw 13,000 ar Facebook, felly roedden ni’n gobeithio y bydden ni’n cyrraedd pobol eraill hefyd.

“Rydyn ni wedi gwneud hyn, ac wedi codi tua £750 erbyn bore ’ma (Chwefror 17), ond mae’n bwysig fod pobol yn cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallan nhw.

“Rydyn ni’n meddwl am y bobl yna heb yswiriant tŷ efallai, busnesau lleol neu glybiau.

“Roedden ni gyd wedi cael braw o weld y llifogydd a’r difrod ddoe.”