Mae golwg360 yn deall na fydd Cadeirydd newydd S4C yn cael ei benodi tan fis Mawrth ar y cynharaf.
Mae’n debyg mai Rhodri Williams, Aelod o Fwrdd anweithredol S4C , yw’r dyn sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd.
Ond cyn cael ei benodi bydd yn rhaid iddo dderbyn sêl bendith Pwyllgor Dethol Materion Cymreig San Steffan.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron y pwyllgor, a hynny mewn sesiwn gwrandawiad, fis nesa’.
Gan gymryd y bydd yn cael ei gymeradwyo, mi fydd yr Ysgrifennydd Gwladol tros Ddiwylliant, Oliver Dowden, yna yn medru bwrw ati â’r penodi.
Y gadeiryddiaeth
Ildiodd Huw Jones yr awenau yn Gadeirydd ym mis Medi, wedi wyth mlynedd yn y rôl, ac roedd disgwyl y byddai olynydd yn cymryd ei le yn yr hydref.
Ond aros o hyd mae’r sianel Gymraeg, ac yn y cyfamser mae Hugh Hesketh Evans yn gwasanaethu’n Gadeirydd dros dro.
Mae Cadeirydd S4C yn derbyn cyflog o £40,000 y flwyddyn am ddau ddiwrnod o waith yr wythnos.
Gyrfa Rhodri Williams
Roedd Rhodri Williams yn Gyfarwyddwr ar Ofcom – y rheoleddiwr – yng Nghymru am 14 blynedd, ac roedd yn Gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith rhwng 1999 a 2004.
Dechreuodd ei yrfa yn newyddiadura gydag ITV, cyn sefydlu’r cwmni cynhyrchu, Agenda Television.