Y cyflwynydd teledu Angharad Mair sy’n dadlau’r achos tros drosglwyddo’r cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru o afael Llywodraeth Prydain yn Llundain, i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd…

Mewn ymchwil byd eang diweddar ar effaith teledu, profwyd bod trigolion gwledydd gyda chyfundrefn ddarlledu eu hunain, yn hapusach, yn iachach, ac yn fwy cynhyrchiol, oherwydd bod ganddynt lais, a bod rhywun yn gwrando.

Os mai’r gwerthoedd sy’n hanfodol ar gyfer adeiladu cenedl yw democratiaeth, tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, heb ddarlledu nid yw’r rhain yn bosibl.

Fe fyddai rheolaeth dros ddarlledu yn ein caniatáu i ddiffinio ac i ddatblygu cymdeithas Gymreig, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol. Yn bwysicach fyth, fe fyddai system ddarlledu ein hunain yn ein caniatáu i gerdded yn falch fel Cymry, wrth i ni benderfynu ar ein tynged ni ein hunain.

Dim tegwch na pharch

Does dim hyd yn oed rhaid i chi fod o blaid annibyniaeth i wybod fod ein hawliau democrataidd ni yn affwysol o brin yng nghyd-destun darlledu. Nid ydym yn cael ein trin gyda thegwch na pharch. Rydym hefyd yn byw mewn cyfnod o oruchafiaeth newyddiadurol o Lundain, a thueddiad i hwnnw fod yn gwbl drahaus, heb syniad mewn gwirionedd beth yw’r materion pwysig i ni yma yng Nghymru.

Ac ar ben hynny, mae’n gywilyddus nad oes yr un sefydliad darlledu yn uniongyrchol atebol i Gymru. Mae un o gonglfeini democratiaeth cenedl dan ofalaeth gwlad arall. Ffaith syfrdanol mewn gwirionedd.

S4C

Cymrwch S4C fel esiampl, sianel iaith Gymraeg, yn atebol i Lywodraeth San Steffan trwy Ysgrifennydd Gwladol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Llongyfarchiadau mawr i Rhodri Williams ar y cyhoeddiad yr wythnos hon mai fe fydd Cadeirydd newydd S4C, ac rwy’n falch o’i benodiad.

Ond nid yw’n gwneud synnwyr, o dan y Ddeddf Darlledu, mai un o weinidogion Llywodraeth San Steffan sy’n cael penderfynu pwy fyddai’n gwneud y Cadeirydd gorau i S4C, ac yn wir, pob aelod o Fwrdd S4C. Mae’n bosib nad yw hi, neu yn y gorffennol, fe, erioed wedi bod i Gymru hyd yn oed. Maen nhw yn Llundain yn penderfynu pwy maen nhw’n feddwl fyddai fwyaf addas i ni.

Mae newid y system yma, yn syml, yn fy marn i, yn fater o hunanhyder, hunangred, ac yn fwy na dim hunan barch. Sut ar wyneb y ddaear rydym ni’n caniatáu i eraill ein trin ni mor ffordd mor israddol?

Y Cyfryngau yn y Gymru Rydd

Gallai Llywodraeth mewn Cymru annibynnol sicrhau fod economi darlledu yn gweithio’n well i bawb yng Nghymru, yn llai canolig yng Nghaerdydd.

Rydym ni yng nghwmni teledu Tinopolis yn ymwybodol iawn ein bod yn fusnes pwysig, yn ddiwylliannol ac economaidd mewn ardal ddifreintiedig fel Llanelli.

Mae canolfan newydd y BBC yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd yn wych i’r rheiny sydd yn dod oddi ar y trên o ardaloedd eraill o Brydain fel Llundain i gyrion pell y BBC yng Nghymru.

Ond er mor wych yw’r adeilad a’r adnoddau, oni fyddai’n well dewis lleoli darlledwr cenedlaethol fan hyn ym Merthyr, neu Dredegar, neu Flaenau Gwent?

Gallai fod yn rhan o dwf economaidd i Gymru gyfan, yn hytrach nag anwybyddu’r diffyg swyddi, y tlodi, a’r cyfleoedd mewn cymaint o rannau o’r de ddwyrain.

Ond, ac mae hyn yn fater o dristwch mawr yn fy marn i, mae cyfres gomedi ddiweddaraf BBC Cymru yn portreadu’r tlodi hwnnw yn The Tuckers. Ac yr ydym ni fod i chwerthin!

Y camau nesaf

Mae’n rhaid i ni sylweddoli bod darlledu, ochr yn ochr ag iechyd, addysg, trafnidiaeth a’r economi ayb yn rhan hanfodol o wladwriaeth iach.

Darlledu sydd yn rhoi llais i ni.

Mae’n sefyllfa ryfedd yng Nghymru, pan fo datganoli darlledu yn codi ei ben, bod ofn y byddai pobl Cymru yn mynnu bod arian teledu yn cael ei wario ar ysbytai ac ysgolion, nid teledu, yn enwedig teledu Cymraeg.

Mae hynny’n colli’r pwynt yn llwyr ar y pwysigrwydd mae pob gwlad annibynnol arall yn ei roi ar ddarlledu, fel rhan o ddemocratiaeth iach a hunan barch.

Mae’r holl newidiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd ym myd darlledu yn rhan o broses ac mae angen i’r broses honno ddechrau yng Nghymru hefyd, cyn annibyniaeth.

Byddai datganoli darlledu nawr o leiaf yn rhoi rhywfaint o bwerau i Lywodraeth Cymru i fonitro’r holl ddatblygiadau pwysig sy’n digwydd ar hyn o bryd, ac i gael cyfrifoldeb dros ddarlledu ar adeg pan mae mor bwysig fod anghenion Cymru yn cael eu cymryd i ystyriaeth mor ddiwyd ag anghenion Lloegr.

Rydym ni yn haeddu’r un tegwch a’r un lefel o ddemocratiaeth y mae eraill yn ei gymryd yn ganiataol.

Fe gafodd y sylwadau uchod eu traddodi gyntaf yng Nghyfarfod Blynyddol diweddar mudiad annibyniaeth YesCymru ym Merthyr Tudful.