Mae’n ymddangos y bydd swyddi gwasanaeth tywydd S4C yn cael eu symud o Lanelli i Gaerdydd ym mis Mai.
Mae pryder ymysg penaethiaid a staff cwmni teledu Tinopolis fod y gwasanaeth tywydd maen nhw’n ei ddarparu i S4C ers 2011 ar fin cael ei drosglwyddo i’r BBC.
Mae Golwg360 wedi cael gwybod na chafodd Tinopolis eu hysbysu o hyn tan yr wythnos yma, ac fe gadarnhaodd un sy’n gweithio ar y gwasanaeth “fod dyfodol swyddi’r cyflwynwyr a’r tîm cynhyrchu yn aneglur”.
Yn ôl llefarydd ar ran S4C mae’r sianel yn ystyried trosglwyddo gwasanaeth tywydd S4C i BBC Cymru “er mwyn darparu gwasanaeth gwell i wylwyr.”
Ychwanegodd: “Bydd trafodaethau nawr yn digwydd gyda staff Tinopolis sydd wedi bod yn darparu’r tywydd, a bydd manylion pellach am unrhyw newid yn y gwasanaeth newydd yn dilyn yn y dyfodol agos.”
Mae Golwg360 ar ddeall mai’r bwriad yw bydd y newid yn digwydd pan fydd BBC Cymru yn symud o Landaf i’r adeilad newydd yn Sgwâr Canolog Caerdydd, gan olygu y bydd y cyflwynwyr tywydd a newyddion yn yr un stiwdio.
Daw hyn ychydig dros flwyddyn ers i S4C symud eu pencadlys o Gaerdydd i ganolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin.