Mae Storm Ciara yn achosi trafferthion i deithwyr ledled Cymru, gyda gwyntoedd cryfion ar eu hanterth yn cyrraedd cyflymdra o 75 milltir yr awr.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ym mhob cwr o’r wlad, a hwnnw mewn grym tan 6 o’r gloch heno yn sgil glaw trwm a than 9 o’r gloch yn sgil y gwyntoedd cryfion.

Mae oedi i deithwyr ar drenau, ac maen nhw’n cael eu cynghori i wirio trefniadau cyn teithio.

Fe fydd teithiau fferi o Iwerddon hefyd yn cael eu heffeithio, wrth i gefnogwyr rygbi ddychwelyd i Gymru ar ôl bod yn Nulyn.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, dylai pobol ar hyd arfordir Cymru fod yn wyliadwrus.

Mae Pont Britannia ynghau yn y gogledd, ynghyd â phontydd Cleddau yn Sir Benfro, Llansawel ger Abertawe a phont Hafren yr M48.

Mae sawl parc ynghau yng Nghaerdydd.