Mae’r cwest i farwolaeth bachgen 16 oed yn Llandudno wedi clywed bod y Sgowtiaid yn peryglu bywydau pobol ifanc.

Bu farw Ben Leonard ar ôl anafu ei ben wrth gwympo tua 200 troedfedd (61 metr) ar y Gogarth tra ei fod e ar ymweliad yno â’r Sgowtiaid ym mis Awst 2018.

Mae’r rheithgor yn Rhuthun yn ystyried eu dyfarniad ar ôl cael eu hanfon adref dros y penwythnos.

Yn ôl y crwner, doedd y Sgowtiaid ddim wedi rhoi manylion llawn i’r llys, gan greu “argraff gamarweiniol” o’r hyn oedd wedi digwydd.

Mae’n dweud bod rheolwr diogelwch Cymdeithas y Sgowtiaid wedi rhoi tystiolaeth gamarweiniol i’r cwest ynghylch y camau a gafodd eu cymryd gan dri arweinydd yn dilyn marwolaeth Ben Leonard.

Cafodd dyletswyddau’r tri eu cwtogi yn dilyn y digwyddiad, ond chafodd y wybodaeth honno mo’i datgelu i’r rheithgor cyn iddyn nhw ddechrau ystyried eu dyfarniad ar ddiwedd y cwest.

Mae adroddiad yn cael ei anfon at Gymdeithas y Sgowtiaid yn nodi 20 o bryderon, gan gynnwys y ffaith nad oedd polisïau diogelwch wedi cael eu rhoi ar waith ac nad oedd asesiadau risg yn eu lle.

Yn ôl Cymdeithas y Sgowtiaid, byddan nhw’n ystyried pryderon y crwner cyn ymateb yn llawn.

Fe fydd ail gwest yn cael ei gynnal ar Orffennaf 13, lle mae disgwyl i brif weithredwr Cymdeithas y Sgowtiaid roi tystiolaeth.