Mae gweithiwr cymdeithasol wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl grandawiad adolygu gan gorff Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cafodd Muhammad Tahseen ei atal am 12 mis gan Wasanaeth Tribiwnlysoedd y Proffesiynau Iechyd a Gofal yn 2017, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod camymddygiad difrifol yn profi nad oedd yn berson addas i ymarfer.

Clywodd gwrandawiad fod Muhammad Tahseen wedi bod yn anonest wrth ddarparu cyfeiriad e-bost ffug i asiantaeth recriwtio er mwyn cael geirda, cyn darparu geirda ffug o’r cyfeiriad hwnnw.

Yn sgil penderfyniad tribiwnlysoedd y Proffesiynau Iechyd a Gofal, penderfynodd panel addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru atal Muhammad Tahseen am 12 mis, gan roi amodau ar ei gofrestriad.

“Rydym yn siomedig i nodi bod Mr Tahseen wedi methu dilyn unrhyw un o argymhellion y panel addasrwydd i ymarfer blaenorol,” meddai’r panel.

“Nid yw Mr Tahseen wedi darparu unrhyw wybodaeth i ni sy’n rhoi sicrwydd i ni ei fod wedi cywiro’i ddiffygion cyn gwrandawiad heddiw.”