Mae tîm rygbi Iwerddon yn profi “cyfnod o drawsnewid” o dan eu prif hyfforddwr newydd Andy Farrell, yn ôl Cymro Cymraeg oedd yn byw yn y wlad am ugain mlynedd.

Cyfarwyddwr teledu a ffilm a chyn-newyddiadurwr yw Andrew Gallimore, sydd bellach yn byw yn Seland Newydd, lle cafodd ei wraig ei geni.

Ymhlith y rhaglenni mae e wedi eu cyfarwyddo mae Llewod ’71, sef rhaglen ddogfen am fuddugoliaeth tîm rygbi’r Llewod yn Seland Newydd yn 1971.

Ar ôl perfformiad digon siomedig a chrafu buddugoliaeth o 19-12 yn erbyn yr Alban yr wythnos ddiwethaf, mae’n darogan gwell perfformiad yn Stadiwm Aviva yn erbyn tîm Wayne Pivac heddiw.

Ac mae’r ystadegau yn sicr o blaid Iwerddon, sydd heb golli yn erbyn Cymru yn Nulyn ers 2012.

“Er bod Cwpan y Byd wedi bod yn siomedig, roedd yna naws optimistaidd cyn y bencampwriaeth yma, yn bennaf oherwydd y ffordd mae Leinster wedi chwarae’r tymor hwn a’r ffordd mae’r chwaraewyr iau wedi camu i’r adwy,” meddai wrth golwg360.

“Ac, er y frwydr yn erbyn yr Alban, nid yw’r Iwerddon yn colli yn Nulyn yn aml iawn.

“Os yw gêm yr Alban yn arwyddocaol, mae yna gyfnod diddorol i ddod i gefnogwyr rygbi Iwerddon.

“Joe Schmidt yw’r hyfforddwr mwyaf llwyddiannus a gafodd yr Iwerddon erioed, ond roedd rhai o’r farn ei fod wedi gwneud y tîm yn rhy ofalus a cheidwadol ar brydiau.

“Cymerodd tîm Andy Farrell fwy o risgiau yn erbyn yr Alban – a oedd hynny’n fwriadol? Mae’n bosib y byddwn ni’n darganfod yr ateb yn erbyn Cymru!”

Rhyddhad

Yn ôl Andrew Gallimore, fe fydd Iwerddon yn teimlo rhyddhad yn bennaf ar ôl goroesi o drwch blewyn yn erbyn yr Alban.

“Gyda phob parch dyledus i’r Alban, roedd honno’n ornest agoriadol yr oedd yr Iwerddon yn disgwyl ei hennill yn gyffyrddus – ond roedd hi’n fuddugoliaeth ffodus yn y diwedd.

“Fodd bynnag, rwy’n credu bod y cefnogwyr yn sylweddoli y bydd yna gyfnod o drawsnewid gyda’r hyfforddwr newydd, ond mae’n ymddangos bod y sylfeini’n weddol gadarn.”

Un chwaraewr fydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y trawsnewid hwnnw, mae’n siŵr, yw Caelan Doris, sydd allan o’r gêm yn erbyn Cymru yn sgil anaf i’w ben.

Ond bydd yr holl sylw ar un dyn yn unig, yn ôl Andrew Gallimore.

“Yr ateb amlwg yw’r un ag y bu am ddegawd – Johnny Sexton.

“Ond mae’n drueni mawr na chewch chi weld Caelan Doris – mae e’n rhan o’r don newydd hon o chwaraewyr Leinster a fydd yn asgwrn cefn i’r tîm cenedlaethol am flynyddoedd lawer i ddod.”

Wayne Pivac

Ac yntau’n byw yn Seland Newydd ar hyn o bryd, dywed Andrew Gallimore fod Wayne Pivac yn cael ei grybwyll fel hyfforddwr y Crysau Duon yn y dyfodol ers tro.

“Ar ôl colli i’r Saeson, y stori fawr yn Seland Newydd yn ystod Cwpan y Byd oedd y gystadleuaeth am swydd Steve Hansen gyda’r Crysau Duon.

“Neilltuodd y wasg rygbi yma fodfeddi lawer i’r Kiwis blaenllaw oedd yn hyfforddi dramor – nid yn unig y ddau amlwg, Joe Schmidt a Warren Gatland, ond hefyd Jamie Joseph gyda Japan a Wayne Pivac.

“Rwy’n credu eu bod yn ymfalchïo’n fawr yma yn yr hyfforddwyr proffil uchel hyn sy’n gweithio dramor.

“Mae’r cyfan yn rhan o gynllun mawreddog tîm rygbi Seland Newydd i ddominyddu’r byd!”