Mae dyn 52 oed sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio Michael O’Leary, dyn 55 oed o Nantgaredig, wedi’i gadw yn y ddalfa.

Bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe yfory (dydd Mercher, Chwefror 5).

Aeth Michael O’Leary ar goll ddydd Llun diwethaf (Ionawr 27), ac mae’r heddlu’n dal i chwilio amdano.

Cafodd Andrew Jones, o Fronwydd ger Caerfyrddin, ei gadw yn y ddalfa wedi gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llanelli.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am gar Nissan Navara oedd yn teithio rhwng Cwmffrwd a Chapel Dewi rhwng 8 o’r gloch a 10 o’r gloch nos Lun (Ionawr 27).