Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod targed i golegau sy’n hyfforddi athrawon i recriwtio siaradwyr Cymraeg.

Yn ôl gohebiaeth gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru, sydd wedi dod i law’r mudiad iaith, fe fydd yn “ofyniad gan Lywodraeth Cymru y dylai Partneriaethau weithio tuag at sicrhau y dylai 30% o recriwtio i bob rhaglen Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon fod yn athrawon sy’n dysgu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am newidiadau er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Gosod cynsail”

Dwedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith mewn ymateb i’r cyhoeddiad: “Rydyn ni wedi pwyso ar y Llywodraeth i wella pethau o ran cynllunio’r gweithlu, dyma’r arwydd cyntaf eu bod yn dechrau gweithredu o ddifrif.

“Dylai’r targedau newydd hyn osod cynsail i gynllunio’r gweithlu mewn sectorau allweddol eraill hefyd fel y gwasanaeth iechyd,” ychwanegodd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at Weinidogion eraill yn y Llywodraeth yn dysgu o benderfyniad Kirsty Williams [y Gweinidog Addysg].”

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.