Fydd pethau “ddim yn fêl i gyd” i bysgotwyr Cymru yn dilyn Brexit, yn ôl pysgotwr o Ben Llŷn.

Mae Siôn Williams yn pysgota yn ardal Porth Colmon ac yn cydnabod y bydd “manteision” yn ogystal ag “anfanteision” o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n egluro bod gan Gymru 1% o gwota pysgota’r Deyrnas Unedig, ond bod tri chwarter o’r gyfran yna dan berchnogaeth cwmni o Sbaen.

Yn sgil Brexit mae’n obeithiol y gall bysgotwyr Cymru hawlio mwy o bysgod eu dyfroedd. Ond fydd hynny ddim yn y dyfodol agos, meddai, a bydd yna heriau eraill yn y cyfamser.

“Mae yna fanteision,” meddai Siôn Williams wrth golwg360. “Ond rydych yn fflipio’r geiniog wedyn ac mae yna anfanteision. All yr anfanteision ddigwydd fory nesaf.

“Allwn ni gael protestio gan Ffrainc neu rwystr marchnad – tariffs. Byddai hynny’n effeithio ni [a’n cychod bach] yn syth bin. Basa’n effeithio ni’n reit ddifrifol.

“Dydy’r manteision ddim yn mynd i ddigwydd dros nos. Byddai’n rhaid adeiladu cychod mwy a chael gafael ar y cwotâu yma yn ôl. Mae’n rhywbeth tymor hir.

“Mi alla’ fo gymryd pump i ddeg mlynedd i ddechrau dripio trwadd.”

Y drefn sydd ohoni

Cychod bach (dan 10 medr) sydd gan bysgotwyr Cymru, ar y cyfan, a dan y drefn sydd ohoni mae’r mwyafrif ond yn gallu dal pysgod cregyn a rhai creaduriaid môr eraill.

Yn ôl Siôn Williams mae 90% o gynnyrch pysgotwyr Cymru yn mynd i Ewrop ac maen nhw’n “ddibynnol iawn” ar y farchnad honno.

Diwrnod Brexit wedi dyfod

Heno mi fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol, gan danio 11 mis o drafodaethau masnachol.

Mae cryn sôn wedi bod y gall y diwydiant pysgota gael ei aberthu yn y trafodaethau yma, wrth i Lundain geisio sicrhau bargeinion gwell i’r diwydiant cyllid.

Dim ond 0.1% o economi’r Deyrnas Unedig yw pysgota, ac mae Siôn Williams yn dweud bod pysgotwyr Cymru’n pryderu am y trafodaethau.

“Mae o’n gyffredinol ar feddyliau pysgotwyr Cymru a Phrydain i gyd,” meddai. “Mae pob un o’r gwleidyddion ochr ‘Gadael’ wedi bod yn defnyddio pysgota fatha acid test – dyna maen nhw’n ei alw…

“Mae o’n un o’r pethau, dw i’n meddwl, fydd yn rhaid iddyn nhw ddiogelu. Mae’r holl addo yma maen nhw wedi ei wneud – byddai mynd yn ôl ar eu gair ddim yn beth da iawn.

“Achos mae lot o bysgotwyr wedi rhoi eu gobeithion ar gael gwell tegwch allan o’r sustem cwotâu.”