Mae dyn 52 oed wedi cael ei arestio yn Sir Gâr, wrth i heddlu barhau i chwilio am ddyn 55 o’r un sir.

Mae Michael O’Leary, o Nantgaredig, wedi bod ar goll ers nos Lun (Ionawr 27), a bellach mae dyn o ardal Caerfyrddin wedi cael ei arestio a bellach yn y ddalfa.  

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys mae teulu’r dyn coll wedi cael gwybod am yr arestiad, ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Mae cerbyd  Michael O’Leary wedi cael ei ddarganfod yng Nghapel Dewi, ger Nantgaredig, a bydd tîm plymio arbenigol yn cynnal chwiliadau yn afon Tywi heddiw. 

Mae’r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un a fu’n teithio rhwng Capel Dewi a Chaerfyrddin rhwng 8.05 yr hwyr a 10.30 yr hwyr ar Ionawr 27.