Mae cyn-Brif Weinidog Cymru am i Keir Starmer olynu Jeremy Corbyn yn arweinydd ar y Blaid Lafur.
Mewn neges ar Twitter mae Carwyn Jones wedi dweud bod gan yr Aelod Seneddol y “presenoldeb a’r poblogrwydd” sydd eu hangen.
A daw hyn wedi i Jeremy Miles, Gweinidog Brexit Cymru; a Jack Sargeant, yr Aelod Cynulliad Llafur; ddatgan eu cefnogaeth hwythau.
“Rydym yn ffodus bod gennym ystod dda o ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth ond heddiw dw i’n cefnogi Keir Starmer,” meddai.
“Dw i wedi ei nabod ef ers sawl blynedd, ac mae ganddo’r egwyddorion, presenoldeb, a’r poblogrwydd [sydd eu hangen] i fod y Prif Weinidog nesaf arnom.”
Y ras hyd yma
Ar hyn o bryd mae pedwar yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, ac yn cystadlu â Keir Starmer mae Rebecca Long-Bailey, Lisa Nandy ac Emily Thornberry.
Er mwyn cyrraedd y rhestr fer a phleidlais yr aelodau, rhaid i’r ymgeiswyr ennill cefnogaeth dau undeb ac un o grwpiau cyswllt llafur, neu gefnogaeth 33 cangen etholaeth.
Mae Keir Starmer, Lisa Nandy a Rebecca Long-Bailey eisoes wedi cyrraedd y rhestr fer, ac mae gan Emily Thornberry tan Chwefror 14 i ennill digon o gefnogaeth.
Bydd arweinydd newydd Llafur yn cael ei gyhoeddi ar Ebrill 4.