Mae awdurdodau yn yr Unola Daleithiau wedi darganfod twnnel dros 4,000 troedfedd o hyd ar y ffin â Mecsico.

Dyma’r twnnel smyglo “hiraf” sydd erioed wedi’i ddarganfod yn rhan orllewinol y ffin, yn ôl patrôl ffin sector San Diego. 

Ac mae’n debyg bod y twnnel 4,309 troedfedd yn cysylltu dinas Tijuana, ym Mecsico, â California yn yr Unol Daleithiau.

Mae gan y twnnel gledrau, sustem gwaredu dŵr, sustem darparu aer, a cheblau trydan; ac mae’n ddigon uchel i ddyn fedru sefyll ynddo. 

Does neb wedi cael ei arestio, a does dim cyffuriau wedi cael eu darganfod. Dyw’r awdurdodau ddim wedi datgelu pwy maen nhw’n amau sy’n gyfrifol am y twnnel.

Mae cartel Sinaloa – un o’r mwyaf yn y byd yn ôl Llywodraeth yr Unol Daleithiau – yn gweithredu yn ardal y twnnel.